Mae nyrsio yn broffesiwn sy'n cyfuno gwybodaeth academaidd, cymhwysedd clinigol, a rhinweddau a gwerthoedd craidd. Defnyddir y wybodaeth yma i ddarparu gofal a thriniaeth o fewn y maes. Mae'n ymwneud 芒 phobl, ac os oes gennych awydd i helpu pobl a thrawsnewid bywydau, gallai nyrsio fod yr yrfa i chi. Gall nyrsio fod yn fywiog, yn amrywiol ac yn heriol; mae'n broffesiwn sy'n gofyn am sgiliau cyfathrebu rhagorol mewn gwahanol sefyllfaoedd gofal, ac mae yna lawer o arbenigeddau y gallwch weithio ynddynt, er enghraifft, pediatreg, nyrsio cymunedol, iechyd meddwl, nyrsio oedolion, anableddau dysgu, trawma a llawfeddygaeth.
Mae nyrsio'n cael ei ystyried yn gelf ac yn wyddoniaeth; mae'n broffesiwn sy'n rhoi llawer o foddhad ac sy'n esblygu'n gyson i fynd i'r afael ag anghenion y gymdeithas gyfoes. Celfyddyd nyrsio yw'r berthynas ofalgar sy'n gyfrwng i nyrsys gymhwyso gwybodaeth, sgiliau a safbwyntiau mewn modd tosturiol. Ymarfer ar sail tystiolaeth yw sylfaen y wyddor ynghyd 芒'r ffocws ar yr unigolyn cyfan, nid dim ond problem iechyd benodol, ac ar unigolion yn ystod pob cyfnod o'u cylch bywyd. Mae nyrsio yn cynnwys hybu iechyd, atal afiechyd a gofal am unigolion s芒l ac anabl, a phobl sy'n marw.
Mae Bangor yn derbyn ceisiadau am gyrsiau nyrsio trwy gydol y flwyddyn, tra bod lleoedd ar gael. Gan bod rhai llwybrau yn llenwi, rydym yn argymell y dylid cyflwyno ceisiadau cyn gynted 芒 phosibl.
Cymharu Cyrsiau Nyrsio
Cipolwg cyflym o'n cyrsiau er mwyn i chi allu cymharu a dod o hyd i'r rhai sy'n addas i chi.