5 rheswm i astudio Hanes, Archaeoleg, a Threftadaeth ym Mhrifysgol Bangor
Mae ein hamgylchedd dysgu yn hollol unigryw; gyda’r ysgol wedi ei lleoli mewn adeilad rhestredig, ynghanol hanes cyfoethog. Gyda’n hamgylchedd dysgu uniongyrchol a’r hyn sydd ar garreg ein drws, gallwn gynnig profiad o ymdrochi mewn Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth i fyfyrwyr.
Mae Prifysgol Bangor wedi ei lleoli rhwng y mynyddoedd a'r môr, mewn ardal sydd wedi cynhyrchu deunydd cyfoethog a thystiolaeth ysgrifenedig ers dros bedair mil o flynyddoedd o anheddiad dynol, gwrthdaro, diwydiant, cymuned, a dyfeisgarwch.
Diolch i leoliad a hanes Bangor, mae'r canlynol yn arbennig o amlwg:
- henebion Neolithig
- caerau o’r oes haearn a chaerau Rhufeinig
- cestyll canoloesol
- eglwysi cadeiriol
- ystadau bonedd
- tai trefi oes y Tuduriaid
- gwaddol y chwyldro diwydiannol a chaethwasiaeth
- plastai gwledig uchelwyr oes Fictoria
Mae'r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn cynnwys dogfennau o'r oesoedd canol i'r oes gyfoes ac yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau. Disgrifiwyd daliadau archifol a llawysgrifau Prifysgol Bangor yn ddiweddar fel “y mwyaf nodedig mewn llyfrgell prifysgol yn unrhyw le ym Mhrydain”. Maent yn ymestyn dros ganrifoedd lawer, o’r canol oesoedd i’r oes gyfoes, ac yn cyfrannu at ba mor unigryw yw Bangor fel man astudio ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion hanes.
Mae ein lleoliad yn golygu y gall myfyrwyr fynd allan i ddysgu yn yr amgylchedd gydag amrywiaeth eang o deithiau maes ac ymweliadau archifol. Mae dau safle treftadaeth y byd UNESCO o fewn pum milltir i’n campws, a gyda’n teithiau maes, gallwch ddod ar draws tystiolaeth o’r gorffennol yn uniongyrchol ac ymuno â ni yn ein cenhadaeth i hyrwyddo, diogelu, a chyflwyno’r dreftadaeth hon.
Trwy astudio Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth byddwch yn dod yn rhan o gymuned glos a chefnogol. Mae ein dosbarthiadau llai yn golygu y byddwch yn dod i adnabod y tîm academaidd wrth eu henwau, ac mae yna bob amser bobl wrth law i ateb eich cwestiynau. Mae myfyrwyr sy'n astudio Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth yn ffurfio cymuned glos, felly byddwch yn dod i adnabod eraill ar eich cwrs sy'n rhannu eich diddordebau yn dda.
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i astudiaeth a chynaliadwyedd hanes, diwylliannau, ieithoedd, a threftadaeth unigryw Cymru, Prydain, Ewrop a thu hwnt. Yn ogystal ag edrych ar faterion cenedligrwydd yma yng Nghymru, mae ein cwricwlwm yn edrych ar bynciau sy'n effeithio ar gymunedau ledled y byd, megis yr amrywiaeth o:
- hunaniaethau
- diwylliannau
- rhywedd
- ethnigrwydd
- rhywioldeb
- a phrofiadau dynol
Mae edrych ar gymunedau llai fel yr un yng Nghymru yn golygu y gallwch weld sawl gorffennol gwahanol a chymhwyso eich dealltwriaeth yn llawer ehangach. Mae cymharu gwahanol ddiwylliannau a hunaniaethau yn ein rhanbarth a’n hymchwil yn gweithredu fel labordy ar gyfer meddwl am fyd sy’n fwy rhyng-gysylltiedig ac amlochrog.
Trwy astudio Hanes, Archaeoleg, a Threftadaeth gallwch ddewis cynnwys modiwlau ochr yn ochr â modiwlau craidd eich cwrs eich hun, yn cynnwys:
- hanes
- archaeoleg
- treftadaeth
- gwleidyddiaeth
- llenyddiaeth
Hyd yn oed o fewn modiwlau unigol, byddwch yn gweld amrywiaeth eang o dystiolaeth – ysgrifenedig, deunydd, darluniadol, tirwedd, a phensaernïol – y gallwn eu defnyddio i ddeall y gorffennol. Bydd hyn yn cyfoethogi’r cwestiynau y byddwch yn eu gofyn, yn ehangu eich ymwybyddiaeth o sut y gellir eu hateb, ac yn dyfnhau eich chwilfrydedd a’ch dadansoddiad: mae hyn oll yn ddefnyddiol, yn eich gradd ac mewn cyflogaeth.
Trwy astudio Hanes, Archaeoleg, a Threftadaeth, gallwch wella eich cyflogadwyedd a'ch rhagolygon gyrfa. Byddwch yn astudio'r gorffennol gyda llygad ar eich dyfodol. Yn eich traethawd hir yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cynllunio ac yn rheoli eich project ymchwil eich hun gan ddatblygu eich sgiliau a'ch gallu i weithio'n annibynnol. Rydym yn cynnig opsiwn i ddewis modiwl lleoliad gwaith, yn aml mewn safleoedd treftadaeth lleol sy'n eich galluogi i feithrin cysylltiadau o fewn y diwydiant.
Mae astudio’r gorffennol ym Mangor yn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio’ch gwybodaeth mewn ymchwil, amgueddfeydd a threftadaeth, archifau, addysgu, cadwraeth a llawer o feysydd eraill. Mae gradd mewn Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth hefyd yn rhoi’r sgiliau ymchwilio, dadansoddi, dadlau a chyflwyno i chi, sy'n hynod werthfawr mewn llawer o ddiwydiannau.
Darganfyddwch y cwrs Hanes, Archaeoleg, a Threftadaeth i chi

Proffil Graddedig Sian Evans
Wrth ddod i Fangor, rydych chi wedi'ch amgylchynu gan hanes - boed eich diddordeb yn y cyfnod cynhanesyddol neu unrhyw gyfnod rhwng hynny a heddiw. Mae gennych chi Safleoedd Treftadaeth y Byd ar garreg eich drws. Mae ehangder y modiwlau a gynigir hefyd yn eich galluogi i deilwra’ch cwrs i'ch diddordebau; a gall staff sy'n arweinwyr yn eu maes eich arwain at y cyfnod rydych chi’n ei fwynhau fwyaf. Mae’r gefnogaeth gan ddarlithwyr, tiwtoriaid personol a staff cymorth yn aruthrol.
Yr hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf yw dysgu mwy a mwy am fy hoff bwnc sef hanes. Mae fy seminarau yn hwyl oherwydd fy mod i'n gallu siarad am fy marn ar bynciau rydw i'n eu caru a gallu dysgu gan eraill..
Unrhyw gwestiynau? Sgwrsiwch gyda myfyrwyr a staff

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?

Liam Evans
Mi oedd y dair blynedd wnes i dreulio ym Mhrifysgol Bangor o blith y gorau erioed. Yma ges i gyfle i ddysgu yr hyn oedd gen i wir ddiddordeb ynddo ac ehangu fy sgiliau. Mi oedd y brifysgol yn cynnig bob math o fodiwlau difyr a ges i gyfle i astudio meysydd hollol newydd. Roedd y gefnogaeth gan staff yn wych ac roeddwn yn teimlo eu bod wir yn rhoi y myfyrwyr wrth galon bob dim oedd yn digwydd.
Gweithio gyda'r gymuned
Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o weithio gyda'r gymuned, a chredwn yn gryf yn y cysylltiad arbennig rhwng y sefydliad a'r ardal yr ydym wedi'n lleoli ynddi. Dyma rai enghreifftiau o brojectau yn ymwneud â Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas: