5 rheswm da dros ddewis Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor
Cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd yn ymwneud ag amrywiaeth o ymchwil ym maes daearyddiaeth, ac yn gwneud defnydd o鈥檙 cyfleusterau rhagorol sydd yma a鈥檔 hamgylchoedd naturiol.
Mae Prifysgol Bangor yn swatio rhwng y mynyddoedd a'r m么r ac felly dyma'r dewis amlwg i unrhyw un sydd eisiau astudio Daearyddiaeth gan fod ein lleoliad yn darparu'r labordy naturiol gorau yn y Deyrnas Unedig. Does dim rhaid i'n myfyrwyr deithio i ymweld 芒 safleoedd maes pwysig ac amrywiol yn ystod eu cwrs - maent ar garreg ein drws. Taith o ychydig funudau yn unig yw godre mynyddoedd Eryri a glannau M么n.
Mae ein cyrsiau BA, BSc ac MGeog mewn Daearyddiaeth wedi eu hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (ynghyd 芒 Sefydliad Daearyddwyr Prydain). Mae ein modiwlau yn adlewyrchu diddordebau ein staff, ac yn cynnwys pynciau fel amgylcheddau afonydd /arfordirol, ardaloedd cefn gwald/trefol, anghydraddoldebau cymdeithasol, geo-beryglon, llywodraethu, modelu amgylcheddol, eigioneg, gwaddodoleg a chynaladwyedd.
Mae ein staff yn sicrhau eu bod ar gael i'ch helpu trwy gydol eich astudiaethau a byddant yn eich annog i gymryd rhan mewn projectau. Mae ein myfyrwyr yn mwynhau bod yma ac rydym yn ymfalch茂o yn ansawdd y dysgu a'r gofal bugeiliol a gynigiwn.
Mae ein graddedigion yn hynod o gyflogadwy am ein bod yn cynnig dealltwriaeth ddaearyddol eang, integreiddiol i'n myfyrwyr. Daearyddiaeth yw pwnc ein hoes; mae'n ddeinamig ac yn esblygu'n gyson wrth i'r byd o'n cwmpas newid. Bydd gradd mewn Daearyddiaeth yn sicrhau eich bod yn gallu gwneud gwahaniaeth yn yr 21ain Ganrif.