Pum rheswm dros astudio’r Gymraeg
Os ydych am astudio’r Gymraeg mewn prifysgol, Bangor yw’r dewis amlwg i wneud hynny gan fod y ddinas wedi’i lleoli yng Ngwynedd, sir Gymreiciaf Cymru o ran canran a nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae astudio ym Mhrifysgol Bangor yn gyfle i’ch trochi eich hun yn sŵn y Gymraeg a byw eich bywyd drwy gyfrwng yr iaith. Mae’r cyfleoedd i gymdeithasu yma heb eu hail, gydag UMCB, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer myfyrwyr, ac mae llwyth o ddigwyddiadau Cymraeg yn cael eu cynnal ym Mangor ac yn yr ardal gyfagos hefyd, o ddramâu i gigs a nosweithiau comedi.
Mae gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor yn sylfaen gref a chadarn ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn amrywiaeth o wahanol feysydd. Mae’n graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i fod yn athrawon, darlithwyr, newyddiadurwyr, awduron, golygyddion, tiwtoriaid Cymraeg, gweision sifil, gwleidyddion, ymchwilwyr, cyfieithwyr, gweithwyr mentrau iaith a llywodraeth leol, llyfrgellwyr a gweithwyr mewn amgueddfeydd ac yn y diwydiant treftadaeth.
Nid oes y fath beth â gyrfa ‘draddodiadol’ i bobl â gradd yn y Gymraeg; mae dilyn cwrs gradd yn y Gymraeg yn golygu meithrin a mireinio sgiliau trosglwyddadwy ardderchog, megis ysgrifennu’n hyderus a chywir, arwain a chymryd rhan mewn trafodaethau, deall a dadansoddi gwybodaeth, cyflwyno syniadau a dadleuon, sy’n agor drysau i lawer o wahanol swyddi. Mae 100% o’n graddedigion naill ai mewn gwaith neu’n dilyn cyrsiau ôl-raddedig 15 mis ar ôl graddio, sy’n brawf o werth gradd yn y Gymraeg o Fangor yn y byd gwaith .
Mae'r darlithwyr a fydd yn eich dysgu yn arbenigwyr yn eu priod feysydd, a bod yr adran Astudiaethau Celtaidd yn un o’r rhai uchaf ei bri ym maes, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y byd i gyd. Mae’n darlithwyr yn cael gwahoddiadau cyson i feirniadu prif gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, i ddarlithio i gymdeithasau lleol ar hyd a lled y wlad, i drafod amrywiol bynciau ar y teledu a’r radio ac mewn cylchgronau, ac i draddodi papurau a darlithoedd mewn cynadleddau. Bangor oedd cartref y XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, cynhadledd fwyaf a phwysicaf y byd Astudiaethau Celtaidd, yn 2019, a thros y blynyddoedd diwethaf mae’n darlithwyr wedi bod yn darlithio a chymryd rhan mewn cynadleddau mewn llefydd mor amrywiol â Gwlad Pwyl, yr Almaen, yr Iseldiroedd, ac Unol Daleithiau America.
Gan fod Ysgol y Gymraeg yn gymharol fechan, mae pawb yma’n adnabod ei gilydd, ac mae gennym gymuned glós o fyfyrwyr a darlithwyr. Yn gymdeithasol, bydd astudio ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi cyfle ichi ddod i adnabod cannoedd o bobl newydd, ond yn academaidd, byddwch yn cael darlithoedd a seminarau mewn criwiau bychain mewn awyrgylch agos atoch. Byddwch chi’n adnabod eich darlithwyr, bydd eich darlithwyr yn eich adnabod chithau, a bydd digonedd o gyfleoedd ichi gael sylw unigol er mwyn trafod eich gwaith academaidd neu faterion eraill. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith ein bod yn adnabod ein myfyrwyr yn unigol, ac yn rhoi pob cefnogaeth bosib iddynt er mwyn eu gweld yn llwyddo.
Ni fu amser pan fu mwy o angen graddedigion disglair a brwdfrydig ar y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, ac nid yw hynny’n mynd i ddigwydd heb athrawon, tiwtoriaid, newyddiadurwyr, awduron, gweision sifil a llu o bobl eraill Cymraeg eu hiaith sy’n mynd i ysbrydoli pobl a sefydliadau i gofleidio’r iaith a’i chryfhau ym mhob cornel o Gymru. Mae astudio Cymraeg yn brofiad bythgofiadwy, yn gyfle ichi ddod i adnabod iaith, llenyddiaeth, hanes a diwylliant Cymru yn well; mae’n gyfle ichi gael eich cyffroi gan lyfrau a syniadau. Ac os dewiswch ddod i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, gallwch fod yn gwbl sicr y bydd pa bynnag yrfa y dewiswch ei dilyn ar ôl graddio yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
97%
Boddhad Cyffredinol ar gyfer Astudiaethau Cymraeg (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025)