5 Rheswm i astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd
Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn cynnig dull unigryw o astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd trwy ein 'Llwybr Addysg Grefyddol' arbenigol. Mae鈥檙 radd hon wedi ei theilwra i fyfyrwyr sy'n ystyried mynd i ddysgu ym maes athroniaeth neu astudiaethau crefyddol, ac mae鈥檔 ganlyniad ymdrech ar y cyd rhwng y gyfadran Athroniaeth, Moeseg, a Chrefydd a'r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol yng Nghymru.
Mae鈥檙 Llwybr Addysg Grefyddol wedi ei gynllunio i鈥檆h arfogi 芒 dealltwriaeth gynhwysfawr o鈥檙 deunydd pwnc, gan sicrhau eich bod wedi eich paratoi鈥檔 drylwyr at ddysgu athroniaeth a chrefydd yng Nghyfnodau Allweddol 3, 4, a 5 yn y dyfodol. Mae'r cwricwlwm yn cynnwys archwiliad o chwe phrif grefydd y byd, athroniaeth crefydd, a moeseg normadol a chymhwysol. Nod y dull cyfannol hwn yw dyfnhau eich gwybodaeth a meithrin sylfaen gadarn at ddyfodol ym myd addysg.
Byddwch yn gallu teilwra eich gradd i gyd-fynd 芒'ch diddordebau trwy amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Bydd hyblygrwydd y radd yn eich galluogi i ymchwilio'n ddyfnach i bynciau sydd o ddiddordeb i chi neu sy'n cyd-fynd 芒鈥檆h dyheadau proffesiynol. O'ch blwyddyn gyntaf, byddwch yn gallu canolbwyntio ar bynciau athroniaeth, moeseg a chrefydd sy'n apelio atoch.
Rydym yn cynnig cwricwlwm amrywiol a diddorol. Gallwch ddysgu am agweddau amlochrog athroniaeth, moeseg ac astudiaethau crefyddol trwy gydol eich gradd.
Ym maes athroniaeth, gallwch astudio traddodiadau dadansoddol a chyfandirol, gan feithrin sgiliau dadansoddol trwy bynciau fel athroniaeth hynafol ac athroniaeth crefydd. Byddwch yn datblygu'r gallu i lunio dadleuon rhesymegol tra'n ymgysylltu'n feirniadol 芒 gweithiau athronwyr dylanwadol fel Plato, Aristotle a Wittgenstein. Gallwch ymchwilio i bynciau fel athroniaeth ddirfodol a chwestiynu ystyr bodolaeth ddynol yng nghyd-destun gweithiau Nietzsche, Sartre a de Beauvoir.
Wrth astudio moeseg, gallwch ymchwilio i bynciau fel moeseg gymhwysol, materion byd-eang o bwys mawr fel hawliau dynol, rhyw a rhywioldeb, canibaliaeth, artaith, yr argyfwng ffoaduriaid, a deallusrwydd artiffisial.
Mae astudio crefydd yn caniat谩u ichi ddysgu am sbectrwm eang o grefyddau'r byd, gan gynnwys Cristnogaeth, Bwdhaeth, Islam, Paganiaeth a Hind诺aeth.
Rydym hefyd yn ymdrin 芒 phynciau unigryw, megis llofruddion cyfresol a bwrw allan cythreuliaid, sy鈥檔 dod ag elfennau o athroniaeth, moeseg a chrefydd ynghyd ac yn cynnig profiad academaidd cyffrous ac arbennig.
Yn ein rhaglen radd, rydym yn enyn diddordeb myfyrwyr trwy gynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd diddorol sy'n taflu goleuni ar berthnasedd athroniaeth, moeseg a chrefydd yn y byd go iawn. Mae arbenigwyr cyfreithiol wedi rhannu eu profiadau yn delio 芒 llofruddion cyfresol, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr am y cysylltiad rhwng cyfraith a moesoldeb.
Rydym hefyd wedi croesawu bwrwyr cythreuliaid sy'n rhannu eu profiadau yn y weinidogaeth ymwared, gan gynnig safbwyntiau ar y ddealltwriaeth gyfoes o feddiant gan gythreuliaid. Mae arweinwyr crefyddol o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys Derwyddon, Hind诺iaid, Jedis a mynachod Bwdhaidd, wedi cyfrannu at drafodaethau ar sut mae eu ffydd yn siapio eu bywydau ac yn llywio eu hymatebion i unrhyw gyfyng-gyngor moesol. Mae鈥檙 sgyrsiau difyr hyn yn helpu i gyfoethogi鈥檙 profiad dysgu, gan gysylltu cysyniadau damcaniaethol 芒 phrofiadau ymarferol, byw, a meithrin archwiliad deinamig o effaith athroniaeth, moeseg a chrefydd ar y byd o鈥檔 cwmpas.
Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn gwneud asesiadau amrywiol megis traethodau, astudiaethau achos, adolygiadau ffilm a dadansoddiadau testun, ac yn mireinio eich gallu i fynegi syniadau mewn gwahanol arddulliau.
Yn dibynnu ar y modiwlau byddwch yn eu dewis, cewch gyfle i ymgolli mewn aseiniadau creadigol, llunio rhestri caneuon neu greu podlediadau, er enghraifft. Mae rhoi cyflwyniadau llafar neu gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ffurf dadl yn gwella eich sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol ymhellach. Mae pob aseiniad wedi ei gynllunio i gyfrannu at ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a chyfoethogi eich CV, gan eich paratoi at bontio鈥檔 llwyddiannus i鈥檙 byd proffesiynol.
Darganfyddwch y cwrs Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd i chi
#3
yn y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu mewn Athroniaeth
gyda chwestiynau鈥檔 cynnwys pa mor dda y mae staff addysgu yn esbonio pethau a pha mor aml y mae鈥檔 herio myfyrwyr i gyflawni eu gwaith gorau (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025)

PROFFIL MYFYRIWR Llio Wyn Owen
Athroniaeth a Chrefydd
"Mae鈥檙 Ysgol Athroniaeth a Chrefydd yn un fechan, a hynny鈥檔 beth braf - mae gan y darlithwyr ddigon o amser i bawb, ac maent wastad yn help mawr, heb s么n am yr hwyl rydym ni gyd yn ei gael bob dydd. Rydw i鈥檔 edrych ymlaen at fynd i bob darlith."