Rydym yn Gwerthfawrogi Hunaniaeth
Mae Prifysgol Bangor Mangor yn croesawu pob myfyriwr sy'n arddel hunaniaeth LHDTC+. Rydym yn anelu i ddarparu man diogel i chi fynegi eich cyfeiriadedd rhywiol ac/neu eich hunaniaeth rhywedd yn llawn. Rydym hefyd yn ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd diogel a chefnogol lle na cheir unrhyw aflonyddu na gwahaniaethu. Rydym eisiau i fyfyrwyr LHDT+ gael y profiad gorau posib yn y brifysgol a mynegir hynny yn ein polisi Polisi Aflonyddu Myfyrwyr ac ein Polisi a Chanllawiau Cydraddoldeb Trawsryweddol i Fyrfyrwyr. Ewch i'n gwe-dudalen Rhannu a Chefnogaeth am ragor o wybodaeth.
Beth yw LHDTC+?
Mae LHDTC+ yn sefyll am Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Thrawsryweddol a Chwiar/Cwestiynu ac ynghyd 芒 Heterorywiol maent yn disgrifio cyfeiriadedd rhywiol pobl neu eu hunaniaeth o ran rhywedd. Tra bod y termau hyn yn cael eu defnyddio'n gyffredin, nid yw pawb yn uniaethu ag unrhyw un o'r categor茂au, felly mae Prifysgol Bangor yn cydnabod hawl yr unigolyn i ddewis ei hunaniaeth.
Cefnogaeth a Chyngor
Y Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Helen Munro, y Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cyswllt arbenigol canolog ar gyfer myfyrwyr LHDTC+ sydd angen cyngor, arweiniad neu gefnogaeth.
Ebost: h.munro@bangor.ac.uk
Y Gwasanaeth Lles
Mae'r Gwasanaeth Lles yn rhan o'r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae'r gwasanaeth yn cynnig Cwnsela, Cyngor ar Iechyd Meddwl, Trais Rhywiol a Chefnogaeth Aflonyddu a chyngor ar faterion sy'n ymwneud a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr.
Ebostiwch y gwasanaethlles@bangor.ac.uk i drefnu apwyntiad.
Cymerwch Ran
Cymdeithas LHDTC+ Undod Bangor
Mae gan y brifysgol gymdeithas LHDT+ weithgar sy'n cynnal gweithgareddau i myfywyr. Mae croeso i bawb ymuno, ni waeth beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol na sut rydych yn mynegi eich rhywedd a'u nod yw darparu amgylchedd diogel a chroesawgar i aelodau'r gymuned LHDT+. Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau a'r ymgyrchoedd a dysgu mwy ar wefan Undeb Bangor.
Gwylio , ffilm fer am ei phrofiad yn dod allan i'w ffrindiau a’i theulu ac yna'n dod i Brifysgol Bangor ac yn ymuno 芒'r gymdeitha