Myfyrwyr Anabl
Rydym yn sylweddoli y gall y term 'anabledd' ddisgrifio amrywiaeth eang o amhariadau corfforol a synhwyraidd gan gynnwys cyflyrau iechyd hirdymor, gwanhaniaethau dysgu penodol ac anawsterau iechyd meddwl. Ein hamcan yw sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal ac yn gallu cymryd rhan yng nghymuned ein prifysgol ac rydym felly yn darparu llawer o weithgareddau sy'n hyrwyddo cynhwysiant.
Gwasanaethau Anabledd
Rydym yn hefyd cydnabod bod gan bawb yr hawl i gael mynediad at bob cyfle sydd ar gael iddynt, waeth fod ganddyn nhw amhariad corfforol neu synhwyraidd. Mae'r yma i roi cyngor ac arweiniad am nifer o faterion sy'n gysylltiedig ag anabledd ac i helpu myfyrwyr anabl i gael eu cynnwys yn llawn o fewn y gymuned academaidd a chymdeithasol.
Ewch i y Gwasanaethau Anabledd i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad at eu gwasanaethau.
E-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk
Ff么n: 01248 383620 / 382032
Y Gwasanaeth Lles
Mae'r Gwasanaeth Lles yn rhan o'r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae'r gwasanaeth yn cynnig Cwnsela, Cyngor ar Iechyd Meddwl, Trais Rhywiol a Chefnogaeth Aflonyddu a chyngor ar faterion sy'n ymwneud a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr.
Ebostiwch y gwasanaethlles@bangor.ac.uk i drefnu apwyntiad.
Gweithgareddau a Chyfleoedd
Interniaethau sydd ar gael i fyfyrwyr anabl
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig interniaethau yn yr haf i fyfyrwyr anabl sydd wedi cofrestru gyda’r . Mae'r interniaethau ar gael ar draws nifer o adrannau ac ysgolion yn y Brifysgol. Maent yn gyfleoedd gwych i wella eich sgiliau cyflogadwyedd ac yn fodd o ennill profiad gwaith a fydd yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy. Gweler ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.
E-bost: gyrfaoedd@bangor.ac.uk
Ff么n: 01248 382071
Cyngor Undeb Bangor - Cynghorwr Myfyrwyr Anabledd
yw'r corff o fewn sy'n bodoli i drafod syniadau'n ymwneud 芒'i bolis茂au, ymgyrchoedd a gweithgaredd gwleidyddol, syniadau'n ymwneud 芒'i gyfleoedd neu i ddatblygu profiad myfyrwyr ym Mangor. Mae'n fforwm hefyd lle gall myfyrwyr Bangor ddal eu swyddogion undeb etholedig a'u cynghorwyr i gyfrif.
Mae'r cyngor yn cynnwys aelodau o blith y myfyrwyr sy'n cy