Rwy'n siŵr na hoffech i'r stori hon fod amdanoch chi: twyllo mewn chwaraeon
Beth sy'n gyrru chwaraewyr a mabolgampwyr proffesiynol i dorri rheolau eu camp gan obeithio na chânt eu dal - ac yn y gobaith y daw â gogoniant iddyn nhw ac i'w tîm?
Math o gymeriad yw craidd y mater, yn ôl ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit (IPEP) Prifysgol Bangor.
Wrth ymchwilio i'w broject trydedd flwyddyn yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol, roedd yn syndod i Ben Jones ddysgu cyn lleied o ymchwil sydd wedi cael ei gyhoeddi ar nodweddion cymeriad a sut maent yn dylanwadu ar agweddau ac ymddygiadau pobl mewn amgylchedd chwaraeon tîm. Yn benodol, roedd ganddo ddiddordeb mewn sut mae pobl â nodweddion cymeriad narsisaidd yn ymddwyn mewn timau.
Mae Ben bellach yn astudio at PhD ac mae ffrwyth ei waith israddedig newydd gael ei gyhoeddi mewn papur academaidd a gyd-ysgrifennodd ag academyddion yn yr Ysgol (Jones, B.D., Woodman, T., Barlow, M., & Roberts, R. (yn y wasg). The darker side of personality: Narcissism predicts moral disengagement and anti-social behaviour. The Sport Psychologist.).
Cadarnhaodd yr ymchwil fod pobl â nodweddion cymeriad narsisaidd yn ymwahanu o foesoldeb ac yn dueddol o ymddwyn mewn ffyrdd sy'n groes i ysbryd y gêm mewn chwaraeon tîm, sy'n debygol o beryglu llwyddiant y tîm.
Esbonia Ben: "Mae narsiswyr yn unigolion hynod o uchelgeisiol ac mae ganddynt ddisgwyliadau anarferol o uchel o'u hunain. Gellid ystyried bod y rhain yn nodweddion hanfodol i gyrraedd a pherfformio ar lefel uchaf chwaraeon. Serch hynny, y cyfuniad o ddiffyg empathi ag eraill a hunan-obsesiwn sy'n rhoi awch iddynt sy'n aml yn golygu y byddant yn barod i beryglu torri'r rheolau er mwyn cyflawni eu nodau eu hunain, o flaen anghenion y tîm, am fod ennill yn golygu cymaint iddynt. Ymddengys eu bod yn argyhoeddi eu hunain nad yw safonau moesol yn berthnasol iddyn nhw a'u bod yn gallu cyfiawnhau gweithredoedd sydd y tu hwnt i ymddygiad derbyniol, oherwydd bydd y gweithredoedd hynny, pa mor bynnag annerbyniol, yn eu cynorthwyo i gyflawni eu nod hollbwysig personol o ymddangos yn ogoneddus yn llygaid eraill."
Pa mor niweidiol yw narsiswyr mewn chwaraeon tîm?
Ychwanegodd Ben: "Weithiau bydd pobl â thueddiadau narsisaidd yn gallu osgoi cael eu cosbi am y math yma o ymddygiad mewn timoedd. Er enghraifft, bydd llawer yn cofio Maradona a'r gôl 'Llaw Duw' drwg-enwog yn ystod Cwpan y