Ymddygiad a Chwynion Myfyrwyr (gan gynnwys disgyblaeth ac apeliadau academaidd)
Mae'r adran hon yn cynnwys cyngor, arweiniad a chysylltiadau i'ch galluogi i gyflwyno cwyn (fel myfyriwr), adrodd am fater disgyblu neu wneud apêl academaidd ac mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i geisio cefnogaeth fel naill ai'r sawl sy'n adrodd am y mater neu'r sawl sy'n destun yr adroddiad.
Mae gan Brifysgol Bangor amrywiaeth eang o raglenni academaidd ac amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr ac, ar brydiau, efallai na fydd pethau bob amser yn bodloni eich disgwyliadau, felly dywedwch wrthym os yw hyn yn wir a byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn delio â'r broblem. Ein nod yw datrys pob mater yn anffurfiol os yw hynny'n briodol ac annog unrhyw achwynydd posib (rhywun sy'n gwneud cwyn) neu apelydd (rhywun sy'n gwneud apêl) i geisio datrys unrhyw faterion cyn adrodd amdanynt yn ffurfiol os yw hynny'n briodol ac yn bosib.
Er mwyn sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir yn gyson ac yn gadarn, gallwn wneud ymholiadau yn seiliedig ar yr adroddiadau a dderbyniwn. Mae natur y maes hwn yn golygu efallai y bydd rhaid i ni rannu'r wybodaeth a dderbyniwn gyda staff eraill y tu allan i'n gwasanaeth ar brydiau. Efallai y bydd rhaid i ni hefyd weithio gyda myfyrwyr, adrannau neu gyrff proffesiynol ac rydym yn addo gwneud hynny mewn modd synhwyrol a chyfrinachol yn unol â'n polisïau a'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).
Mae Prifysgol Bangor yn gweithredu yn unol â gofynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) a chaiff ein gweithdrefnau myfyrwyr eu hadolygu o bryd i'w gilydd yn erbyn egwyddorion craidd Fframwaith Arfer Da Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol. Bydd pob un o'n gweithdrefnau yn arwain at ganlyniad ar wahanol gamau ac mae gennych hawl i apelio yn erbyn y canlyniadau hynny nes bydd y gweithdrefnau hynny wedi eu cwblhau.
Y Tîm Gwaith Achos Myfyrwyr sy'n gyfrifol am reoli a monitro cwynion myfyrwyr, materion disgyblu ac apeliadau academaidd. Mae croeso i chi gysylltu â ni i gael arweiniad ar sut i ddelio â'r materion hyn os ydych yn ansicr beth i'w wneud, neu os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau neu os ydych am apelio yn erbyn canlyniad gweithdrefn.
Cefnogaeth gyda'r materion hyn
Gall myfyrwyr sy'n gwneud cwyn, apêl academaidd neu sy'n adrodd am fater disgyblu, a myfyrwyr sy'n destun disgyblu gysylltu â'r Gwasanaethau Myfyrwyr neu Undeb y Myfyrwyr am gyngor cyfrinachol a/neu gynrychiolaeth a gall rhywun fynd gyda hwy a/neu eu cynrychioli mewn unrhyw gyfarfodydd os byddant yn dewis hynny. Gallwch ofyn i ry