Ymuno i gael ynni rhatach o lanw'r m么r
Mae cynnwrf y llanw i weld yn glir ar wyneb Y Fenai.Mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor yn lansio project mawr i astudio cynnwrf y llanw yn y Fenai. Sut gall y project hwn helpu i leihau costau datblygu, gan arwain at ynni rhatach o'r llanw?
Mae egni'r m么r yn cynrychioli adnodd ynni helaeth a heb ei ddefnyddio gan fwyaf. Amcangyfrifwyd bod y farchnad fyd-eang am ynni morol werth tua 拢76 biliwn rhwng 2016 ac 2050, yn 么l y ffigurau a ryddhawyd gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.
Er mwyn cael mynediad i'r ffynhonnell hon o ynni, mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor wedi ennill dau grant mawr gwerth 拢230k i astudio'r cynnwrf yn y cefnfor. Yr amcan yw helpu i wella dyluniad a gweithrediad dyfeisiau i ddal ynni'r llanw.
Gwella asesu risgiau
Mae'r projectau newydd yn cysylltu'r t卯m ym Mangor gyda , gwneuthurwyr offer eigionegol, a Partrac, y cwmni sy'n arolygu ynni adnewyddadwy'r m么r. Bwriad y t卯m Mae'r cerrynt sy鈥檔 llifo drwy Bwll Fanogl ymysg y cryfaf i'w brofi o amgylch ein glannauhwn o arbenigwyr yw gwella asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig 芒 chynnwrf ac felly helpu i leihau costau datblygu, gan arwain at ynni rhatach o'r llanw.
"Mae'r moroedd bas o amgylch y DU yn cynrychioli un o'r adnoddau ynni llanw gorau yn fyd-eang, yn cyfrif am oddeutu 10% o gyfanswm y byd. O ganlyniad, mae'r diwydiant ynni llanw yn sector o e