Mynd i'r afael â gwaddol plastig amaethyddol
Er bod defnyddio plastigau mewn amaethyddiaeth wedi gwella cynhyrchu bwyd a diogelwch bwyd mewn sawl gwlad, mae wedi gadael gwaddol o lygredd plastig ar dir amaethyddol.
Mae project ymchwil rhyngwladol newydd, sy'n gweithio gyda phum gwlad incwm isel a chanolig, a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yn y DU yn chwilio am ffyrdd i ddatrys y llygredd plastig a achosir gan ddefnyddio plastigau fel haenau tomwellt rhad sydd ar gael yn rhwydd, a defnyddiau eraill.
Bydd y project yn canolbwyntio ar ddau beth sef ymdrin â phroblemau cyfredol a sefydlu cynlluniau etifeddol i alluogi cenedlaethau'r dyfodol i ymgysylltu â'r broblem.
Bydd Gwobr Ymchwil ac Arloesi’r DU yn galluogi tri arbenigwr o Brifysgol Bangor, yr Athro Davey Jones, yr Athro Dave Chadwick a'r Athro Peter Golyshin o Ysgol Adnoddau Naturiol y Brifysgol i weithio gyda grwpiau ymchwil o Brifysgol Bryste a Phrifysgol Reading yn y DU, a gwyddonwyr pridd, ymchwilwyr economaidd-gymdeithasol, rhwydweithiau o ymgynghorwyr a ffermwyr, amaeth-ddiwydiannau a llywodraethau rhanbarthol yn Tsieina, yr Aifft, India, Sri Lanka a Fietnam. Mae'r pum gwlad a ddewiswyd ar wahanol bwyntiau o ran delio â'u problemau difrifol gyda phlastig amaethyddol.
Gyda'i gilydd, mae'r gwledydd hyn yn defnyddio 3 miliwn tunnell o ffilm blastig amaethyddol bob blwyddyn dros 25 miliwn hectar o dir amaethyddol. Maent hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o ran yr hinsawdd a nifer o wahanol strwythurau llywodraethu.
Yn ogystal â meintioli’r risgiau a achosir gan y plastigau sydd yn y pridd ar hyn o bryd, bydd y timau ym mhob lleoliad yn cyd-gynllunio atebion ymarferol, economaidd, cymdeithasol dderbyniol a hyfyw yn wleidyddol sy’n benodol i anghenion a phroblemau eu gwlad er mwyn lleihau'r gwaddol o blastig.
Bydd Davey Jones, Athro Gwyddor Pridd yn canolbwyntio ar ymchwilio i'r effeithiau y mae macro-, micro- a nano-blastigau confensiynol sy'n diraddio mewn