Anrhydeddu darlithydd o Brifysgol Bangor am ei chyfraniad i addysg mewn gerddi botanegol
Dr Sophie Williams.Mae Dr Sophie Williams, darlithydd mewn cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn y .
Rhoddir y wobr gan The Marsh Christian Trust, mewn cydweithrediad 芒 Botanic Gardens Conservation International, i unigolyn ar ddechrau neu ynghanol gyrfa sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i hyrwyddo ymwybyddiaeth gyhoeddus o bwysigrwydd planhigion neu wneud gweithgareddau addysg pwysig mewn gardd fotanegol.
Meddai'r Athro Stephen Blackmore, cadeirydd : "Rydw i wedi mwynhau gweithio efo Sophie yn y Royal Botanic Garden yng Nghaeredin ac yn Tsiena - dwi erioed wedi cyfarfod 芒 neb tebyg iddi mewn gwirionedd o ran ei hegni a'i hymroddiad i sicrhau dyfodol da i'r Ddaear. Mae'n dod yn ffrind yn syth i bawb y mae'n eu cyfarfod am mae'n rym anorchfygol dros newid er gwell yn y byd."
Meddai'r Athro Morag McDonald, Pennaeth , "Mae Sophie'n gyfathrebwr ac addysgwr nodedig iawn. Mae myfyrwyr Bangor wedi elwa'n eithriadol o'r awch a'r brwdfrydedd sy'n nodwedd mor amlwg o'i dysgu. Yn ogystal, mae wedi cynnal cyrsiau hyfforddi poblogaidd i fyfyrwyr yn Mauritius (i'r Durrell Wildlife Conservation Trust), Caergrawnt (i'r Cambridge Student Conference of Conservation Science), Tsiena (i Ardd Fotanegol Drofannol Xishuangbanna) a Bangladesh (i Brifysgol Rajshahi). Gwych o beth ydi gweld ei chyfraniad i addysg gadwraeth fyd-eang yn cael ei gydnabod drwy'r wobr yma."
Dyma oedd gan Wang Ximin, pennaeth addysg yng i'w ddweud: "Fe wnaeth Sophie lawer iawn i wella addysg amgylcheddol mewn gerddi botanegol yn Tsiena, yn arbennig yma yn Xishuangbanna. Gyda help Sophie, fe wnaeth yr ardd yma anfon ei staff i weld gerddi botanegol ym Mhrydain, yn cynnwys Treborth. Er 2013, mae wedi datblygu a chynnal cwrs pythefnos bob blwyddyn i hyfforddi addysgwyr mewn gerddi botanegol yn Tsiena.