110 mlynedd o ddysgu Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor
Y dosbarth Coedwigaeth gyntaf ym 1904.Yn 2014 mae un o'r 'prifysgolion coedwigaeth' hynaf yng ngwledydd Prydain, a'r gyntaf i gynnig gradd mewn coedwigaeth, yn dathlu 110 mlynedd o ddysgu'r pwnc. Dros y cyfnod hwnnw mae Prifysgol Bangor wedi rhoi graddau mewn coedwigaeth i fyfyrwyr o fwy na 100 o wledydd, a heddiw mae 60 o israddedigion a 100 o 么l-raddedigion MSc yn astudio ar gyrsiau coedwigaeth a gynhelir gan Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth. Mae proffil ymchwil rhyngwladol Bangor, a'r diwylliant ymchwil bywiog mewn coedwigaeth, yn golygu bod 50% o fyfyrwyr ymchwil yr Ysgol yn gweithio ym meysydd coedwigaeth, coedamaeth a gwyddor coed.
Dechreuwyd dysgu coedwigaeth ym Mangor yn 1904 pan wnaeth Coleg Prifysgol Gogledd Cymru sefydlu swydd darlithydd cynorthwyol mewn coedwigaeth yn ei Adran Amaethyddiaeth. Ffurfiwyd yr Adran Goedwigaeth yn 1907 ac yn 1908 daeth Bangor y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i gynnig gradd (ddwy flynedd) mewn coedwigaeth. Safodd dau fyfyriwr eu harholiadau terfynol yn 1910 a'r un flwyddyn penododd y brifysgol ei Hathro Coedwigaeth cyntaf.
Meddai Athro Gwyddorau Coedwig presennol Bangor, John Healey:
Myfyrwyr Coedwigaeth presennol ar daith maes."O'i dyddiau cynharaf un mae Prifysgol Bangor wedi anelu at ddysgu pynciau o bwysigrwydd lleol, cenedlaethol a byd-eang. Mae coedwigaeth wedi bod yn un o lwyddiannau mwyaf y polisi yma. Mae Prifysgol Bangor wedi ennill ei phlwyf fel sefydliad gyda'r gorau yn y byd sydd wedi cael dylanwad enfawr ar y proffesiwn coedwigaeth a rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy. Drwy gydol hanes coedwigaeth ym Mangor mae addysg myfyrwyr rhyng