Ymchwil ynni adnewyddadwy'r m么r ym Mhrifysgol Bangor
Cefndir
Rydym wedi cael ein hamgylchynu gan un o'r ffynonellau mwyaf posibl i drosi ynni adnewyddadwy, sef y m么r. Er yr amcangyfrifwyd bod y potensial dros 10 TW, yn cynnwys trosi ynni llanw ac ynni thermol y m么r (OTEC), ar hyn o bryd mae llai na 50 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy'r m么r wedi'i osod ledled y byd. Felly dyma un o'r sectorau ynni adnewyddadwy mwyaf cyffrous ac arloesol i gael ei ymchwilio.
Them芒u ymchwil
Mae ymchwil ynni adnewyddadwy'r m么r ym Mhrifysgol Bangor, p'un a yw'n ymchwil awyr las neu'n ymchwil a datblygu ar y cyd, wedi tueddu i ganolbwyntio ar asesu a nodweddu adnoddau tonnau a'r llanw, gyda'r amcanion cyffredinol canlynol:
- Dulliau gwell o nodweddu adnoddau ac amodau'r m么r
- Lleihau costau a gwytnwch
- Trydan o ansawdd gwell
- Cefnogi'r trawsnewid o brototeip i fasnacheiddio
- Gwell mynediad at drydan
Ffynonellau cyllido
Cronfeydd strwythurol
Dechreuodd Prifysgol Bangor gymryd rhan mewn ymchwil ynni adnewyddadwy'r m么r a ariannwyd gyda dau broject cronfeydd strwythurol Ewropeaidd a gynhaliwyd ochr yn ochr yn 2010-2013:聽聽(gweithio ar draws pob sector morol), ac yn arbennig聽, gan weithio'n benodol ar ynni adnewyddadwy'r m么r. Roedd y ddau broject hyn yn seiliedig ar brojectau ymchwil a datblygu, gan weithio ar y cyd 芒 diwydiant, ac arweiniodd project SEACAMS at greu聽聽ym Mhorthaethwy. Esblygodd SEACAMS i fod yn ail broject a gyllidwyd,聽聽(2014-2020), a oedd yn canolbwyntio'n llwyr ar ynni adnewyddadwy'r m么r, mewn cydweithrediad eto 芒 diwydiant. Bydd y project mwyaf diweddar聽聽(canolfan ynni effeithlon smart), 2019-2023, yn ymchwilio i swyddogaeth ynni adnewyddadwy'r m么r mewn systemau ynni'r dyfodol, yn cysylltu sectorau ynni carbon isel eraill trwy ganolfan seiber-isadeiledd gyffredin. Yn wahanol i'r tri phroject cronfeydd strwythurol ynni morol blaenorol ym Mhrifysgol Bangor, mae SEEC yn ganolfan rhagoriaeth academaidd a fydd yn canolbwyntio ar ennill grantiau yn hytrach na chydweithio penodol 芒 diwydiant. Mae cyllid cyfredol Iwerddon/Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn cynnwys y project聽聽(2017-2020) sy'n ymchwilio i sut y gellir cynllunio isadeiledd ynni ar y m么r i leihau effeithiau amgy