Mae newid hinsawdd yn fygythiad llawer mwy i amaethyddiaeth na haenau tomwellt plastig, yn 么l rhybudd gan ymchwilwyr
Mae newid hinsawdd yn fygythiad llawer mwy i amaethyddiaeth na haenau tomwellt plastig, yn 么l ymchwil newydd.
Yn wir, dengys yr astudiaeth a wnaed o dan arweiniad Prifysgol Bangor fod plastigion yn helpu lleihau effeithiau llawer o broblemau amgylcheddol mewn amaethyddiaeth.
Mae defnyddio daenfeydd yn dechneg amaethyddol sydd yn cynnwys gorchuddio鈥檙 pridd gyda ffilmiau arbennig er mwyn codi tymereddau, atal chwyn a gwarchod d诺r mewn cynhyrchiad cnydau.
Mae鈥檙 ymchwil, a gyhoeddwyd yn , yn herio'r pryderon cynyddol sy鈥檔 ymwneud 芒 defnyddio hneau tomwellt plastig mewn amaethyddiaeth ac mae鈥檔 galw am arferion gwell mewn ymchwil a rheolaeth.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Amaethyddol Tsieina, a sefydliadau rhyngwladol eraill wedi cyhoeddi adolygiad cynhwysfawr sy'n archwilio manteision ac effeithiau amgylcheddol posibl defnyddio plastig mewn amaethyddiaeth.
Maent yn rhybuddio bod eu canfyddiadau'n tynnu sylw at baradocs hollbwysig y mae'n rhaid i lunwyr polisi, ffermwyr ac eiriolwyr amgylcheddol fynd i'r afael ag ef.
Dywedodd yr awdur arweiniol, yr Athro Davey Jones o Brifysgol Bangor, "Mae hanau tomwell plastig wedi chwyldroi amaethyddiaeth mewn sawl rhanbarth o'r byd, gan fwydo 100 miliwn o bobl ychwanegol.
"Hyd yma, ychydig iawn o dystiolaeth a fu gennym o ddifrod amgylcheddol oherwydd plastigau amaethyddol o'i gymharu 芒 bygythiadau amgylcheddol eraill fel newid hinsawdd. Yn wir, mae plastigion yn helpu lleihau effeithiau llawer o broblemau mewn amaethyddiaeth fel defnyddio plaladdwyr, prinder d诺r a gorddefnyddio gwrteithiau."
Ychwanega'r cyd-awdur, yr Athro David Chadwick, sydd hefyd o Brifysgol Bangor, 鈥淓r bod pryderon ynghylch llygredd microblastigau, ychydig iawn o dystiolaeth sydd fod hynny鈥檔 dod yn uniongyrchol o amaethyddiaeth. Er bod rhai sefydliadau鈥檔 galw am waharddiadau ar ddefnyddio plastigau, yn ein barn ni gellid mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 rheini trwy well rheolaeth yn hytrach na gwaharddiadau llwyr a allai fygwth diogelwch bwyd.
Mae'r ymchwil yn dangos bod manteision rhyfeddol i daenfeydd ffilm blastig:
Mae'r rheini鈥檔 cynnwys cynnydd o 45.5% yng nghynnyrch cnydau ar gyfartaledd, gwelliant o 58% yn effeithlonrwydd defnydd d诺r, a gostyngiad oddeutu 50 miliwn metr ciwbig yn yr anghenion dyfrhau bob blwyddyn.
Maent hefyd yn cynnwys llai o ddefnydd o chwynladdwyr drwy atal tua 20,000 tunnell o gymwysiadau cemegol, a chynnydd mewn incwm ffermwyr o 拢200-700 yr hectar.
Mae'r manteision hynny鈥檔 cyfrannu'n uniongyrchol at nifer o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig gan gynnwys dim newyn, lleihau tlodi, a defnydd cyfrifol.
Mae'r ymchwilwyr hefyd yn dweud bod angen rhoi cyd-destun i'r pryderon amgylcheddol ynghylch defnyddio plastig mewn amaeth.
Mae'r astudiaeth yn datgelu bod llawer o鈥檙 pryderon ynghylch microblastigau鈥檔 seiliedig ar ymchwil ddiffygiol a ddefnyddiodd grynodiadau plastig afrealistig o uchel.
Dywedodd Dr. Kai Wang, cyd-awdur o Brifysgol Amaethyddol Tsieina, "Mae ymchwil cyfredol yn aml yn profi lefelau microblastigau sydd gannoedd neu filoedd o weithiau'n uwch na'r hyn a ganfyddwn mewn gwirionedd mewn priddoedd amaethyddol. Ar grynodiadau realistig, mae'r effaith ar iechyd y pridd i鈥檞 weld yn fach iawn."
Canfu'r ymchwilwyr fod lefelau microblastigau nodweddiadol mewn priddoedd amaethyddol yn cynrychioli tua 0.0001% yn unig o gyfanswm cyfaint y pridd, llai o lawer nag y profodd nifer o astudiaethau labordy.
Mae'r astudiaeth yn gwneud nifer o argymhellion i ffermwyr a llunwyr polisi.
Yn hytrach na gwahardd offeryn amaethyddol gwerthfawr, mae'r ymchwilwyr yn argymell canolbwyntio ar ddulliau "dim gollyngiadau" yn hytrach na "dim defnydd" i leihau'r effaith amgylcheddol.
Maent yn bleidiol i ddefnyddio plastigau mwy trwchus a gwydn sy'n gwrthsefyll eu darnio ac sy'n haws eu hadfer. Maent hefyd yn annog buddsoddi mewn offer mecanyddol i geisio adfer cymaint ag sy鈥檔 bosib o鈥檙 ffilm blastig ar 么l ei defnyddio
Rydym yn argymell sefydlu rhaglenni casglu gyda chymhellion i waredu鈥檔 briodol yn ogystal ag ystyried dewisiadau amgen bioddiraddadwy lle bo hynny'n economaidd ymarferol.
Dywedodd Dr Changrong Yan, cyd-awdur o Academi Gwyddorau Amaethyddol Tsieina, "Er bod taenfeydd bioddiraddadwy鈥檔 addawol, mae eu costau鈥檔 uwch o lawer, 2-3 gwaith yn fwy na thaenfeydd confensiynol, ac mae heriau i'w mabwysiadu'n eang, yn enwedig i ffermwyr bach."
Mae'r papur yn disgrifio anghenion ymchwil hanfodol, gan gynnwys protocolau safonol i fesur microplastigau mewn pridd ac arbrofion realistig sy'n adlewyrchu amgylchiadau maes gwirioneddol.
"Mae angen gwyddoniaeth well arnom i wneud penderfyniadau polisi da," dywedodd yr Athro Jones. "Mae diogelu鈥檙 cyflenwad bwyd byd-eang yn dibynnu ar gyflawni鈥檙 cydbwysedd hwnnw鈥檔 gywir."
Nodiadau i Olygyddion
The study, titled "The agricultural plastic paradox: Feeding more, harming more?" was published in Environment International. It represents a collaboration between researchers from the UK, China, and other international institutions.