Ymunwch â ni am noson ysbrydoledig yng nghwmni Rob Pope ym Mhrifysgol Bangor!
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gael croesawu Rob Pope, y dyn a aeth ati i ymgymryd â her ryfeddol sef ail-greu'r daith redeg orau yn hanes ffilmiau, sef taith epig 15,621 milltir ar draws yr Unol Daleithiau, a hynny bum gwaith, sef yr un pellter a mynd o Begwn y Gogledd i Begwn y De a thraean o'r ffordd yn ôl.
Milfeddyg yn gweithio yn Lerpwl oedd Rob, nes iddo adael ei swydd i ddilyn breuddwyd, sef bod y person cyntaf erioed i gwblhau'r rhediad epig a wnaed gan un o gymeriadau mwyaf annwyl Hollywood, Forrest Gump.
Dros 18 mis caled, fe wynebodd anafiadau, lluwchfeydd eira, tanau coedwig a chyfarfod â chymeriadau diddorol ar hyd y ffordd. Ymgollodd yn y bywyd Americanaidd a dysgu mwy nag a ddychmygodd erioed.
Ond nid dyna ddiwedd llwyddiannau Rob. Nid yn unig y gall redeg yn bell, gall redeg yn gyflym hefyd. Cafodd ei goroni'n bencampwr marathon Awstralia yn 2015. Ers cwblhau ei her Forrest Gump, mae Rob wedi rhedeg ar draws Iwerddon mewn 24 awr, ac wedi cwblhau 24 o Parkruns mewn un diwrnod.
‘Rob Pope has made his name revelling in challenges that range from the unconventional to the extraordinary.’
Yn y ffilm, gofynnwyd i Forrest Gump gan ddarllenydd newyddion ‘Are you doing this for the homeless? Are you running for women's rights? Or for the environment? Or for animals?’ Atebodd 'I just run’. Rhedodd Rob i godi arian i bob un o’r achosion hynny. Bydd ei sgwrs ym Mhrifysgol Bangor yn parhau â'r gwaith hwnnw, gan godi arian ar gyfer WWF.
Mae’r tocynnau am ddim, ond byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn gwneud rhodd i’r WWF trwy ddilyn y ddolen . Rydym yn awgrymu rhodd o £10 i helpu’r WWF i adfer iechyd y ddaear.
Dywedodd John Parkinson, Athro Seicoleg Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor a threfnydd y modiwl 'rhedeg marathon', sy’n fodiwl unigryw sy’n cael ei gynnig ym Mangor “Nid dim ond ymarfer corff ydy rhedeg. Fe wnaethon ni esblygu fel rhedwyr ac mae rhedeg wedi llunio datblygiad bodau dynol. Mae'n feddylfryd, yn ffordd o ddeall y byd, ac yn ffordd o fyw. Mae rhedeg yn y gwyllt yn ein helpu i feithrin empathi a thosturi tuag at y byd naturiol a bioamrywiaeth.
Dywedodd Julia Jones, Athro Gwyddor Cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor ac un o ymddiriedolwyr y WWF “Fe wnes i gyfarfod Rob ar daith gerdded yn codi arian i’r WWF ar draws Ynys Wyth (DIM BYD iddo fo ond gwaith caled i’r gweddill ohonon ni). Ro’n i wedi fy swyno gan ei stori anhygoel a dwi ar ben fy nigon fy mod i’n cael cyfle i'w glywed yn rhannu ei hanesion, ac yn codi arian ar yr un pryd i achos teilwng iawn sy'n agos at galonnau'r ddau ohonon ni.”
Nid sgwrs ydy hon jest i bobl sydd â diddordeb mewn cadwraeth bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, neu i rai sy’n ymhyfrydu mewn rhedeg, ond yn hytrach sgwrs a fydd yn addas i unrhyw un sy'n chwilfrydig am yr America fodern a’i holl gymhlethdod ac amrywiaeth. Aeth taith Rob Pope ag ef drwy bob cwr o'r wlad, gan gynnig persbectif uniongyrchol ac unigryw o’r tirweddau, y cymunedau a'r heriau sy'n diffinio'r Unol Daleithiau heddiw. Mae'n stori am ddygnwch, am ddarganfod, ac am y bobl sy'n gwneud America yr hyn ydyw.
Peidiwch â cholli'r cyfle i glywed am antur sy'n mynd ymhellach na dim ond milltiroedd.
Rhagor o wybodaeth:
Rob Pope



