Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Caiff y cwrs byr, lefel 7 rhan-amser hwn ei gyflwyno ar ein campws ym Mangor a Wrecsam gyda rhywfaint o gynnwys ar gael ar-lein (dull dysgu cyfunol).
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr hwn wedi ei ddylunio'n benodol ar gyfer nyrsys, bydwragedd neu nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPH) sy鈥檔 gofrestredig 芒鈥檙 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Bydd y cwrs byr hwn yn paratoi myfyrwyr i ymateb i anghenion unigol cleifion mewn perthynas ag iechyd atgenhedlu ac/neu iechyd rhywiol/emosiynol mewn ffordd anfeirniadol, heb fod yn rhywiaethol, hiliol na homoffobig.
Nodau鈥檙 cwrs byr lefel 7 hwn fydd:
- cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol ddulliau atal cenhedlu a manteision ac anfanteision pob un.
- darparu'r theori a'r ymarfer i fyfyrwyr i'w paratoi i ddarparu gwasanaethau atal cenhedlu a gwasanaethau iechyd rhywiol i gleifion.
- cymryd golwg ehangach ar iechyd y boblogaeth trwy gynnwys rhai agweddau ar hybu iechyd sy'n rhan annatod o wasanaeth atal cenhedlu a gwasanaeth iechyd rhywiol integredig.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Cynhelir y cwrs byr hwn dros 26 wythnos, fel arfer yn ystod ail semester y flwyddyn academaidd, a bydd yn cynnwys:
- 4 diwrnod yn olynol o ddarlithoedd rhyngweithiol wyneb yn wyneb, yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Lun 3 - Dydd Gwener 7 Chwefror 2025
- 1 diwrnod o astudiaeth hunangyfeiriedig.
- 7 awr o gymryd rhan mewn bwrdd trafod ar-lein trwy gydol y modiwl. Bydd yr oriau鈥檔 hyblyg ond maent yn orfodol.
- Mynychu 12 x clinig 3 awr (yn agos i鈥檙 ardal ddaearyddol lle mae鈥檙 myfyriwr fel arfer yn ymarfer).
- Bydd gofyn i fyfyrwyr wneud gwaith darllen pellach a pharatoi aseiniad.
Bydd asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Astudiaeth achos (4,000 gair)
- cwblhau llyfr gwaith cymhwysedd clinigol
Tiwtor
Julie Roberts

Cymhwysodd Julie Roberts fel bydwraig yn 2010 a bu鈥檔 gweithio am nifer o flynyddoedd mewn ymarfer clinigol gan weithio mewn darpariaeth gofal cyn-geni, mewnbartwm ac 么l-enedigol yn eu tro.
Mae Julie bob amser wedi gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 adran addysg bydwreigiaeth, i ddechrau fel Hwylusydd Ymarfer yn cefnogi profiadau dysgu myfyrwyr, cyn dechrau mewn r么l darlithydd bydwreigiaeth yn 2017, a dod yn Arweinydd Blwyddyn 1 ac Arweinydd Modiwl.
Ar hyn o bryd mae Julie yn Gyfarwyddwr Cwrs ar gyfer y rhaglen israddedig, ac mae ganddi ddiddordeb mewn addysgeg naratif a dysgu鈥檔 seiliedig ar gysyniad mewn addysg bydwreigiaeth.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae鈥檙 cwrs byr hwn (lefel 7) wedi鈥檌 gynllunio i roi鈥檙 theori a鈥檙 ymarfer i fyfyrwyr iddynt allu darparu gwasanaethau atal cenhedlu a gwasanaethau iechyd rhywiol effeithiol i gleifion.
Bydd y modiwl yn trafod y pynciau canlynol, ymhlith pethau eraill:
- Proffesiynoldeb, cyfathrebu a chyfrinachedd, dewisiadau gwybodus
- Anatomeg a ffisioleg (systemau atgenhedlu mewn dynion a merched, ffisioleg y cylchred mislif)
- Dulliau atal cenhedlu (hormonaidd a di-hormonaidd, naturiol)
- Addysg iechyd rhywiol a hybu iechyd
- Cwnsela seicorywiol
- Cymryd hanes y claf a gwneud asesiad risg (beichiogrwydd a chlefydau a drosglwyddir yn rhywiol)
- Goblygiadau cyfreithiol a moesegol
- Rhaglenni brechu a sgrinio mewn iechyd rhywiol ac iechyd atgenhedlu
- Gofal ar sail dealltwriaeth o drawma
- Atgyfeirio a gwaith t卯m amlddisgyblaethol
- Gweithio gyda phobl ifanc a grwpiau o bobl sy鈥檔 agored i niwed
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau iechyd rhywiol
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o鈥檙 cwrs?
Erbyn diwedd y cwrs byr hwn, bydd myfyrwyr yn gallu:
- dadansoddi鈥檔 feirniadol rolau a chyfrifoldebau ymarferwyr mewn t卯m amlddisgyblaethol sy鈥檔 darparu gwasanaethau atal cenhedlu a gwasanaethau iechyd rhywiol.
- gwerthuso鈥檔 feirniadol egwyddorion a dulliau atal cenhedlu gan ddangos y sgiliau clinigol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion y cleient.
- gwerthuso鈥檔 feirniadol y theori sy鈥檔 cefnogi darparu dulliau atal cenhedlu a gwasanaethau iechyd cysylltiedig.
- gwerthuso鈥檔 feirniadol y materion moesegol a chyfreithiol cymhleth a all godi wrth ddarparu gwasanaethau atal cenhedlu a gwasanaethau iechyd rhywiol.
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch 芒'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud 芒 cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid 脭l-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Bydd ymgeiswyr angen gradd israddedig o 2:2 neu uwch, a rhaid iddynt fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:
- Nyrs, bydwraig neu nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPH) sy鈥檔 gofrestredig 芒鈥檙 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio 脭l-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Atal Cenhedlu ac Iechyd Cysylltiedig: y cod yw NHS-4384. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer