Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Cod modiwl: NHS-4396
Caiff y cwrs byr, lefel 7 rhan-amser hwn ei gyflwyno ar ein campws ym Mangor a Wrecsam gyda rhywfaint o gynnwys ar gael ar-lein (dull dysgu cyfunol).
Gellir astudio'r cwrs byr hwn ar ei ben ei hun neu gellir ei astudio fel modiwl ar yr MSc Astudiaethau Bydwreigiaeth.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer nyrsys, bydwragedd a nyrsys iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol (SCPH) sydd wedi'u cofrestru'n NMC.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Bydd y modiwl hwn yn galluogi ymarferwyr cymwys i ennill y sgiliau a'r arbenigedd, i gynnal Archwiliad Corfforol y Newydd-anedig a gynigir ar hyn o bryd i bob baban newydd-anedig yn y DU, o fewn 72 awr ar 么l geni ac eto yn 6-8 wythnos oed, yn unol 芒'r Rhaglen Sgrinio Genedlaethol.
Bydd y modiwl yn archwilio'r newidiadau strategol o fewn gofal iechyd o ran darparu archwiliad arferol o fabanod newydd-anedig.
Bydd y modiwl yn galluogi ymarferwyr i berfformio Archwiliad corfforol cynhwysfawr ac asesiad ymddygiadol o fabanod newydd-anedig, gan weithio o fewn t卯m amlddisgyblaethol i wneud atgyfeiriadau priodol at glinigwyr penodol.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Bydd y cwrs byr hwn yn cynnwys 6 diwrnod llawn o addysgu (naill ai yn y cnawd neu ar-lein) ac un diwrnod ychwanegol a fydd yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol/efelychu.
Y dyddiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yw:
- 2 Hydref 2024
- 9 Hydref 2024
- 16 Hydref 2024
- 24 Hydref 2024
- 6 Tachwedd 2024
- 13 Tachwedd 2024
- 4 Rhagfyr 2024 (Skills Day)
Mae hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau 10 arholiad ac arddangos cymwyseddau clinigol o dan oruchwyliaeth uniongyrchol goruchwyliwr enwebedig o'u hymddiriedolaeth ysbyty leol, sy'n gymwysedig yn yr Archwiliadau Corfforol ar gyfer Babanod a Babanod Newydd-anedig (NIPE) e.e. Bydwraig sy'n Ymarfer, Cofrestrydd Babanod Newydd-anedig, Uwch Ymarferydd Babanod Newydd-anedig.
Bydd y goruchwyliwr yn arwain ac yn cefnogi'r myfyriwr trwy agweddau clinigol y modiwl.
Bydd asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Traethawd (3,500 o eiriau)
- 10 archwiliad systematig o'r baban newydd-anedig mewn ymarfer clinigol
Tiwtor
Lauren Irving

Mae Lauren wedi bod yn fydwraig gymwysedig ers 2011 ac wedi gweithio鈥檔 glinigol am 10 mlynedd cyn dod i Brifysgol Bangor. Roedd hi鈥檔 arbenigo mewn bydwreigiaeth gymunedol, parhad gofal, genedigaethau yn y cartref, addysg rhieni, bwydo ar y fron ac Archwiliadau Corfforol ar gyfer Babanod a Babanod Newydd-anedig (NIPE).
Mae Lauren yn aelod o'r t卯m darlithio bydwreigiaeth ac yn arwain Blwyddyn 2 ar y rhaglen Bydwreigiaeth israddedig. Hi hefyd yw鈥檙 arweinydd ar gyfer Bwydo ar y Fron, a bu鈥檔 cynorthwyo Prifysgol Bangor i gyflawni ei hachrediad aur Menter Cyfeillgar i Fabanod (BFI) yn 2022 鈥 yr unig Brifysgol yng Nghymru ag achrediad Aur. Mae Lauren yn addysgu'r modiwl NIPE ar lefelau israddedig ac 么l-radd.